Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd Ysgol

Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023, 12:00 – 13:30

 

Yn bresennol:

Jenny Rathbone AS, Caerdydd Canolog; Peter Fox AS, Sir Fynwy; Luke Fletcher AS, De-orllewin Cymru; Heledd Fychan AS, Canol De Cymru.

Hefyd yn bresennol: Robbie Davison, Can Cook/Well Fed; Jen Griffiths Cyngor Sir y Fflint; Rhys James, Cyngor Sir Caerffili; Yr Athro Simon Wright, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a pherchennog bwyty; Pearl Costello, Bwyd Caerdydd/Synnwyr Bwyd Cymru; Yr Athro Kevin Morgan a Becca Jablonski, Prifysgol Caerdydd; Judith Gregory, Arlwyo Addysg Caerdydd; Libby Davies, Undeb Amaethwyr Cymru; Andrew Tuddenham, Cymdeithas y Pridd Cymru; Gareth Thomas, Cara Mai Lewis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Edward Morgan, Bwydydd Castell Howell; Mark Lawton a David Roberts, Bwydydd Harlech; Steve Jones a Rob Lawton, Arlwyo Newydd; Holly Tomlinson, Cynghrair y Gweithwyr Tir; Shea Buckland-Jones, Ruth Lawrence a Tessa Marshall, WWF Cymru; Gemma Roche-Clarke, Heledd Daniel, Llywodraeth Cymru; Suan John, Swyddfa Cefin Campbell AS; Alex Sims, Swyddfa Jenny Rathbone AS; Charlotte Knight, Swyddfa Jayne Bryant AS.

 

Ymddiheuriadau: Sian Gwenllian AS; Cefin Campbell AS

 

Nodiadau Cyflwyno:

 

Cyflwynodd Robbie Davison (RJ), Cyfarwyddwr y fenter gymdeithasol Can Cook, y bartneriaeth gymdeithasol Well Fed, sy’n cynnwys Can Cook, Cyngor Sir y Fflint a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn. Mae’r cyflwyniad ynghlwm wrth y cofnodion.

Mae Well Fed yn gweithredu model coginio-oeri, paratoi rhannol er mwyn gallu cyflenwi 20,000 o brydau ysgol yr wythnos (y targed yw 100,000 yr wythnos eleni), gan ganolbwyntio ar ansawdd bwyta a maeth, gyda’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud yn yr ysgol. Mae'r model i fod i gael ei roi ar waith mewn ymateb i brinder staff arlwyo medrus mewn ysgolion a chostau cynyddol bwyd ffres.

Materion allweddol a godwyd:

o    Mae cyfanwerthwyr yn lleol ond mae’n bosibl nad yw'r cynnyrch yn lleol, yn enwedig ffrwythau a llysiau, sy’n dod o farchnadoedd cyfanwerthu yn Lerpwl/Manceinion; nid yw pob cyflenwr lleol yn bodloni'r manylebau gofynnol, e.e. cig eidion - nid yw ar gael yng ngogledd Cymru, ac mae’n dod o’r tu allan i Gymru.

o    Mae angen buddsoddiad gan y llywodraeth i ehangu partneriaethau bwyd cymdeithasol ledled Cymru, er mwyn gwneud y gorau o'r broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

o    Mae ffocws amgylcheddol Well Fed ar filltiroedd bwyd yn bennaf, ond mae'n rhaid i'r gadwyn gyflenwi alluogi Well Fed i weithredu ar raddfa fawr.

o    Mae'r model yn darparu rheolaeth dros safonau - gweler y drafodaeth isod.

o    Mae model partneriaeth gymdeithasol yn cynnig cydnerthedd rhag i’r system bwyd cyhoeddus gael ei meddiannu’n gorfforaethol.

Trafodaeth

 

Heriodd RJ a JG yr honiad bod safonau’n anos i’w sicrhau mewn ysgolion sy’n coginio ar y safle – mae’r gweithrediadau hyn wedi eu rhagnodi’n llym. Yr her yma oedd 'safoni' nid safonau - y ddadl oedd y gall ysgolion unigol safoni i'r un cysondeb â phrydau a gynhyrchir ar raddfa.

RD – mae'r model Well Fed yn rheoli'r agweddau hollbwysig ar ddarparu prydau. Ceginau ysgol ddylai fod y rhan bwysicaf o'r ysgol, ac nid yw'r model yn ceisio tarfu ar hynny.

HT – Ei phrofiad o dyfu corbwmpenni a ddosberthir gan Castell Howell: yr her i gynhyrchwyr bach yw prosesu a glanhau ar raddfa fawr. O ble ddylai'r buddsoddiad ddod? Gallai cadwyn gyflenwi ddarparu.

PF – yr allwedd i hyn yw graddfa. Mae angen marchnadoedd gwarantedig ar ffermwyr e.e. caffael cyhoeddus. Byddai cynlluniau bwyd yn cefnogi'r newid hwn.

JR – mae cwestiwn mawr o ran cynaliadwyedd ynghylch ble mae Cymru yn mynd i gyrchu ffrwythau a llysiau ar gyfer prydau ysgol am ddim. Ble mae e.e. Harlech yn cael ei lysiau?

ML - Nid yw Bwydydd Harlech yn cyflenwi ffrwythau a llysiau ac ar hyn o bryd nid ydynt yn gweithio gyda Well Fed.

KM – ai partneriaeth gyhoeddus-gymdeithasol yw’r ateb gorau mewn ymateb i ymdrech y system fwyd gyhoeddus i wrthsefyll meddiannu corfforaethol?

RD – edrych y tu hwnt i werth cymdeithasol at effaith gymdeithasol. Dim ond drwy bartneriaethau cyhoeddus-cymdeithasol mae hyn yn digwydd.

EM – os yw cynlluniau bwyd yn gofyn am swm o fwyd i safon benodol, sut byddai hyn yn gweithio pe bai cyllideb Well Fed yn cael ei gosod ymlaen llaw gan yr Awdurdod Lleol? Mae angen buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi i dalu am unrhyw ddiffyg - y risg gyda'r model yw ei fod yn dibynnu ar y cyfanwerthwyr i fod yn hyfyw.

SJ – Creodd Sir y Fflint gegin ganolog fechan yn 2020 ar gyfer 22 o ysgolion, ond mae eu model coginio-poeth yn heriol o safbwynt logistaidd. Yn ymwybodol o'r risg ehangach y gallai cyflenwyr mentrau cymdeithasol fel Can Cook gael eu prynu gan gorfforaethau, gan arwain at echdynnu arian cyhoeddus i gyfranddalwyr.

PF – bydd y modelau busnes a’r buddsoddiad sydd eu hangen i reoli’r risgiau hyn yn digwydd os caiff polisi bwyd ei ddwyn ynghyd a’i wneud yn rhan o’r gyfraith.

JR – cadw mewn cof bod yn rhaid gwneud dewisiadau gwario anodd mewn dyfodol lle bydd cyllidebau'n lleihau.

HT – roedd garddwriaeth o dan anfantais oherwydd cynlluniau taliadau fferm yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar arwynebedd gyda lleiafswm o hectarau yn ofynnol. Gallai cyllidebau amaethyddiaeth gefnogi buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi o dan y cynllun Ffermio Cynaliadwy.

LD: Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi capio taliadau i gyfyngu ar y swm a ddarperir i fentrau mawr

SW – Dylai Cymru fod yn awyddus i arfogi pob ysgol â chogyddion sydd wedi eu hyfforddi’n dda, ac i’r llywodraeth osod cynllun hirdymor. Nid partneriaethau cymdeithasol yw’r unig ateb, ac nid yw’r model Well Fed yn datrys yr holl heriau yn y system fwyd. Yn y tymor hir, mae angen gosod targedau ar gyfer cynhyrchu yng Nghymru.

JR – yr her yw bwydo nifer cynyddol o blant gyda bwyd o ansawdd gwell a chyllidebau cyfyngedig

RJ – Mae Caerffili ar hyn o bryd yn asesu costau cyrchu bwyd o Gymru (fel fersiwn o 'lleol'). Mae safonau Caffael Cyhoeddus yn cynnwys targed o 10% ar gyfer cynhyrchion gwerth cymdeithasol. Y broblem yw graddfa - ni all Cymru gyflenwi'r amrediad llawn o fwydydd sydd eu hangen dros nos.

KM – ni all yr un model fynd i’r afael â her y system fwyd; mae angen amrywiaeth o ddulliau – ecosystem o atebion – ac mae angen i ni wneud i'r dulliau weithio drwy bartneriaethau.

 

Pwnc ar gyfer y cyfarfod nesaf: heriau gweithredol

 

Sylwadau i gloi gan y Cadeirydd:

-          Diolchodd i Robbie Davison a phawb oedd yn bresennol am eu cyfraniadau i'r drafodaeth.